top of page

Our Data Privacy Policy

Ein Polisi Preifatrwydd Data

Nod y polisi preifatrwydd hwn yw egluro ein harferion o ran casglu, defnyddio a diogelu data personol yng nghyd-destun yr ymchwil rydyn ni'n ei chynnal. Rydyn ni eisiau bod yn dryloyw ynghylch pwy ydyn ni, pa ddata rydyn ni’n ei gasglu, sut mae’n cael ei ddefnyddio, a pha hawliau sydd gennych chi yng nghyswllt ein gweithgareddau ymchwil.

 

Cyflwyniad

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu sut mae England Marketing Ltd, asiantaeth ymchwil arbenigol ac aelod balch o'r Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad, yn rheoli eich data personol. Mae rhagor o wybodaeth amdanom ar gael ar ein gwefan.

 

Categorïau Data

Yn ein harolygon, efallai y byddwn yn gofyn am wahanol fathau o ddata personol, fel gwybodaeth ddemograffig (ee daearyddiaeth, cefndir economaidd-gymdeithasol, ethnigrwydd, anabledd a rhywedd). Dim ond yr hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer yr ymchwil y byddwn yn ei gasglu, ac nid ydym yn chwilio am wybodaeth rhy fanwl na sensitif.

 

Yn ogystal â data’r arolwg, nodwch y gall galwadau i mewn neu allan gael eu recordio at ddibenion ymchwil, hyfforddiant neu ansawdd. Defnyddir y recordiadau hyn i wella ein gwasanaethau a sicrhau'r ansawdd uchaf wrth ryngweithio â chi.

 

Cyfranogiad Gwirfoddol

Mae cymryd rhan yn ein harolygon yn gwbl wirfoddol. Mae croeso i chi wrthod neu dynnu eich cyfranogiad yn ôl ar unrhyw adeg heb unrhyw ôl-effeithiau.

 

Sail Gyfreithiol ar gyfer Prosesu Data

Mae English Marketing Ltd yn gweithredu fel y rheolydd data a’r prosesydd data. Rydyn ni'n prosesu eich data ar sail eich caniatâd penodol i gymryd rhan yn yr arolwg penodol rydych wedi cael eich nodi ar ei gyfer. Mae gennych hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Ar ben hynny, mae ein gwaith prosesu data yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018.

 

Rhannu Data

Rydyn ni'n trin eich data personol a’ch ymatebion yn gwbl gyfrinachol. Er bod ymatebion ar lefel unigol yn cael eu rhannu â’r cleient comisiynu, rydyn ni'n cymryd camau i sicrhau eich bod yn aros yn ddienw. Bydd data a allai, o’i gyfuno, ddatgelu pwy yw unigolyn yn cael ei wneud yn ddienw’n ofalus cyn ei rannu â’r cleient. Ni ddatgelir pwy ydych chi i’r cleient.

 

Cadw Data

Bydd eich data personol yn cael ei gadw’n ddiogel am 12 mis o ddechrau’r arolwg, ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddileu am byth. Bydd data dienw nad oes modd ei adnabod yn cael ei gadw i gefnogi prosiectau ymchwil, canfyddiadau ac adroddiadau a gyhoeddir. Bydd data personol yn cael ei storio ar wahân i ddata arall.

 

Hawliau Cyfranogwyr

Mae gennych hawl i weld eich data personol yn ystod y cyfnod cadw. Ar ôl i’ch data gael ei ddinistrio, ni fydd yn bosibl i chi ei weld mwyach. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl neu wrthwynebu ein dull o brosesu data ar unrhyw adeg. Ni fydd eich data personol yn cael ei rannu heb eich caniatâd ysgrifenedig penodol. Os oes angen, gallwch hefyd gywiro data personol anghywir neu hen.

 

Cwynion

Os oes gennych chi bryderon ynghylch sut rydyn ni’n delio â’ch data personol, mae gennych chi hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn https://ico.org.uk/global/contact-us/ neu drwy anfon e-bost at casework@ico.org.uk.

 

Lleoli a Phrosesu Data

Mae’r holl ddata personol sy’n cael ei gasglu ar gyfer yr arolwg hwn yn cael ei storio a’i brosesu yn y Deyrnas Unedig, gan gadw at gyfreithiau a rheoliadau diogelu data.

 

Defnyddio Cwcis

O bryd i’w gilydd rydyn ni'n casglu gwybodaeth drwy gwcis at ddibenion rheoli ansawdd a dilysu. Gallwch reoli neu analluogi cwcis drwy osodiadau eich porwr. Rydyn ni hefyd yn casglu gwybodaeth am ddyfeisiau (e.e. system weithredu, math o ddyfais, gosodiadau arddangos, a math o borwr) i sicrhau profiad arolwg cydnaws; fodd bynnag, nid yw'r wybodaeth hon yn nodi eich lleoliad na phwy ydych chi fel unigolyn.

 

Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich preifatrwydd ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch a chyfrinachedd eich data. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi arfer eich hawliau, mae croeso i chi gysylltu ag England Marketing Ltd gan ddefnyddio’r manylion isod.

 

Sut alla i gysylltu ag England Marketing Ltd ynghylch yr arolwg hwn a/neu fy nata personol? 

E-bostiwch: hello@englandmarketing.co.uk gydag enw’r arolwg yn llinell pwnc yr e-bost.

 

Post: Swyddog Diogelu Data, England Marketing Ltd, The Research Hub, Fenside Road, Warboys, Huntingdon, Swydd Caergrawnt, PE282XR

 

Dolenni Defnyddiol

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: www.ico.org.uk 

 

Market Research Society: www.mrs.org.uk

Diweddarwyd y polisi ar 26/9/23

bottom of page